DudleyEVANSYn dawel ar ddydd Llun, Rhagfyr 6ed 2021 yn Ysbyty Glangwili, yn 84 mlwydd oed, hunodd Dudley o Manor Way, Llanllwch, Caerfyrddin, gynt o Cefn Bryn Brain, Cilâ a Dynfant. Priod ffyddlon Mair, tad cariadus Helen a Huw, Taid arbennig Chloe a Daniel, tad-yng-nghyfraith hoffus, brawd-yng-nghyfraith, a brawd annwyl y diweddar Graham. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair, Llanllwch dydd Mawrth, Rhagfyr 21ain am 1.45y.p. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, i 'Alzheimer's Research Wales' trwy law Glanmor Evans a'i Fab. Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100
Keep me informed of updates